FIDEO: Elfyn Evans yn ennill Rali Bulldog – Dulux Trade BRC 2011

Dwi’n cofio’r sticeri ar bob car o Ddinas Mawddwy (gan gynnwys y bws ysgol) yn deud “Go Gwyndaf, Go”. Gwyndaf Evans oedd y raliwr llwyddianus yna wrth gwrs. Wel ma mab Gwyndaf, Elfyn, i weld yn dilyn ôl traed ei Dad.

Dyma fideo ohono’n ennill rali ddiweddar yng Ngogledd Cymru:

Dyma stori bellach am ei bedwaredd safle yn Rali Rynglwadol Pirelli yng Nghaerliwelydd yr wythnos diwethaf.

Swnio fel bod Elfyn yn anelu i wella ar gampau ei Dad. Go Elfyn, Go!

Gigs Sŵnami yr haf yma

Sŵnami

Ma’r band ‘ma o “Ddolgellau-ish” yn gigio’n galed dros y misoedd nesa. Dyma’r rhestr:

5 Mai= Feinal Brwydr Y Bandiau C2 Radio Cymru
28 Mai= Ty siamas Dolgellau hefo Al Lewis
2 Mehefin= Ar lwyfan maes Eisteddfod y Urdd
4 Mehefin= Gwyl Cyfanedd
4 Mehefin= Dawns Rali Ffermwyr Ifanc Meirionydd
2 Gorffennaf= Can ar Dan
15 Gorffennaf= Sesiwn Fawr

‘Hoffwch’ nhw ar Facebook er mwyn cael y newyddion diweddara.

Lluniau Dolgellau yng nghasgliad Library of Congress

Mae naw llun i gyd yn y casgliad gan gynnwys nifer o lwybrau Torrent, Preceipice, Tal y Llyn ac ati. Cliciwch ar y lluniau isod i weld llun mwy.

[Dolgelly and Cader Idris (i.e. Dolgellau and Cadair Idris), Wales] (LOC)
[Tal-y-Llyn Pass, Dolgelly (i.e. Dolgellau), Wales] (LOC)
[Torrent Walk I, Dolgelly (i.e. Dolgellau), Wales] (LOC)

Mae’r lluniau hyn yn gwbl rydd o hawlfraint (wel, does neb yn gwybod am unrhyw gyfyngiadau hawlfraint), felly gallwch chi eu lawrlwytho a’u hail-ddefnyddio nhw fel y mynnwch chi. Sgwn i a fyddai modd defnyddio nhw mewn rhyw fordd? Mygiau? Posteri? Rhywbeth mwy creadigol?

Hanes a Thirwedd Dolgellau

Mae Heneb, sef Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd, wedi creu gwefan ardderchog lle gallwch chi gael gwybodaeth fanwl ar ddaearyddiaeth, adeiladau a hanes Dolgellau a’r tir sy’n ei hamgylchynyu.

Dyma’r map o’r ardaloedd:

Wrth glicio ar y rhifau cewch dudalen ar wahân ar gyfer yr ardol honno, fel hon am ganol y dref, gyda disgrifiad o hanes yr ardal a disgrifiad o’i nodweddion tirwedd hanesyddol. Mae hefyd yn rhoi llun o’r awyr o bob rhan, fel hon o ardal ystad Nannau a Llyn Cynwch:

Am ryw reswm mae na fersiynau Cymraeg ar gael ar gyfer ardaloedd Llŷn, Traws, Ardudwy a Dyffryn y Fawddach. Piti nad oes na un ar gyfer Dolgellau ei hun.

Beth bynnag, mae’n adnodd arbennif i’w gael arlein er mwyn ecsplôrio ardal, a dwi’n falch iawn bod o ar gael.

Mae’r canllaw i fryngeiri Meirionnydd hefyd yn wych (er yn galw Meirionnydd yn Merioneth…), gyda chyfeiriad manwl at fryngeiri Moel Offrwm, Moel Faner a Bryn Castell.